SL(5)318 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 ("y Prif Reoliadau"), a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae’r Prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n amodol ar incwm yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i'r ffordd y caiff ad-daliadau eu gweinyddu i leihau maint gordaliad gan fenthycwyr. Mae'r Rheoliadau yn cael eu gwneud ar sail gyfansawdd gan yr Ysgrifennydd Gwladol (dros Addysg) a Gweinidogion Cymru (fel y Prif Reoliadau). Mae'r Memorandwm Esboniadol yn egluro'r pwerau perthnasol sy'n parhau i fod yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) mewn perthynas â'r offeryn hwn. 

Fel gyda'r Prif Reoliadau, mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi: “Given the composite nature of the Regulations and that no routine Parliamentary processes exist by which to lay bilingual regulations before Parliament, these Regulations will be made in English only”.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

7 Chwefror 2019